Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig

 

Ymweliad anffurfiol â Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru, Ysbyty Treforys, 13 Chwefror 2014

 

Yr Aelodau a oedd yn bresennol: David Rees, Elin Jones, Lindsay Whittle, Kirsty Williams, Gwyn Price, Rebecca Evans.

 

Fel rhan o'r ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig, ymwelodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol â Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru yn Ysbyty Treforys ar 13 Chwefror 2014.  Nod yr ymweliad oedd dysgu mwy am y gwasanaeth a ddarperir gan unig uned llawdriniaeth bariatrig y GIG yng Nghymru.

 

Cyfarfu'r pwyllgor yn anffurfiol ag aelodau tîm amlddisgyblaethol y sefydliad, gan gynnwys staff meddygol preswyl y sefydliad - llawfeddygon, meddygon, anesthetyddion, nyrsys arbenigol, dietegwyr, seicolegwyr, prif nyrsys theatr a gweinyddwyr llawfeddygol - i drafod eu gwaith. Roedd claf a oedd wedi cael llawdriniaeth bariatrig drwy'r sefydliad hefyd yn bresennol ac amlinellodd ei phrofiad o wasanaethau bariatrig hyd yma – gan gynnwys llawdriniaeth – i'r Aelodau.

 

Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru

Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru yn Ysbyty Treforys yw'r unig ddarparwr gwasanaethau llawfeddygaeth bariatrig lefel 4 yng Nghymru. Fe'i ffurfiwyd ym mis Tachwedd 2010 a pherfformiwyd y llawdriniaethau cyntaf yno ym mis Ionawr 2011. 

 

Mae'r sefydliad yn asesu'r holl gleifion o Gymru a gaiff eu cyfeirio ar gyfer gwasanaethau lefel 4 yn erbyn y meini prawf a bennwyd gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.  O ran ymgymryd â llawdriniaeth, mae Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru yn gwasanaethu poblogaeth de Cymru – mae'n rhaid i boblogaeth gogledd Cymru deithio i Loegr lle caiff gwasanaethau eu comisiynu yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Brenhinol Salford.  Mae'r sefydliad yn darparu tîm amlddisgyblaethol llawn, asesiad cyn llawdriniaeth a gwasanaeth dilynol am ddwy flynedd yn dilyn y llawdriniaeth ac mae ganddo ddau lawfeddyg ymgynghorol bariatrig llawn amser.

 

Nodyn ar drafodaeth yr Aelodau â thîm amlddisgyblaethol Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru.

Mae'r nodyn hwn yn amlinellu'r themâu a drafodwyd yn anffurfiol gan yr Aelodau a thîm amlddisgyblaethol y sefydliad yn ystod ymweliad y pwyllgor. Roedd llawer o'r materion a drafodwyd yn adeiladu ar bwyntiau a wnaed yn ystod sesiwn dystiolaeth lafar ffurfiol y bore pan roddodd Mr Jonathan Barry a Mr Scott Caplin – y dau lawfeddyg bariatrig yn y sefydliad – dystiolaeth lafar ffurfiol.

 

Meini prawf cymhwyso a datblygu'r gwasanaeth

Tynnwyd sylw at y diffyg cysylltiad rhwng meini prawf cymhwyso yng Nghymru a'r canllawiau NICE yn ystod yr ymweliad â'r sefydliad. Nodwyd na fydd mynediad teg a chyfartal i lawdriniaeth bariatrig yng Nghymru yn cael ei gyflawni heb gadw at ganllawiau NICE, sy'n pennu meini prawf is ar gyfer mynediad i lawdriniaeth na'r hyn sydd ar waith ar  hyn o bryd o fewn system Cymru.

 

Esboniodd staff y sefydliad y defnyddir yr offeryn DUBASCO i benderfynu pwy sy'n gymwys ar gyfer llawdriniaeth yng Nghymru. Offeryn dogni yw hwn a ddefnyddir i fodloni'r gofyniad i drin nifer penodedig o gleifion a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru bob blwyddyn – y ffigur ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf oedd 67 o gleifion (o'r llwyth achosion posibl o 3,000, sef y ffigur a amcangyfrifwyd). Nodwyd bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn edrych i gomisiynu nifer cynyddol o lawdriniaethau bariatrig yn y blynyddoedd sydd i ddod. Nododd staff WIMOS, fodd bynnag, y bu syrthni o ran cynnydd yn y maes hwn.

 

Nodwyd ar adeg yr ymweliad nad oedd nifer y gweithdrefnau a fyddai'n cael eu comisiynu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15 wedi'i gadarnhau eto, ond y trafodwyd cynnydd o 67 i 120.  Nodwyd os byddai'r adnodd o ddau lawfeddyg yn cael ei ddefnyddio yn llawn y gallai'r sefydliad gyflawni 240 o lawdriniaethau bob blwyddyn. Pe bai Cymru yn cydymffurfio â chanllawiau NICE, nodwyd y byddai ôl-groniad o gleifion cymwys yn codi.

 

Triniaeth i blant a phobl ifanc

Nodwyd na chaniateir llawdriniaeth ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed ar hyn o bryd yng Nghymru.  Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau fod gan bob claf - pa un ai ydynt o dan neu dros 18 oed – fynediad i wasanaethau lefel 3.  Dywedodd staff fod nifer cynyddol o blant a phobl ifanc gordew yn cael eu cyflwyno ar gyfer triniaeth, ond nad oes gwasanaeth lefel 3 pediatrig arbenigol ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru. Nodwyd fod staff y sefydliad yn aml yn aros i unigolion droi'n 18 oed cyn gellir gwneud unrhyw beth defnyddiol i'w cynorthwyo. 

 

Gwasanaethau cysylltiedig – dieteteg, seicoleg ac ati.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd y dull amlddisgyblaethol o ymdrin â gwasanaethau bariatrig yn ystod yr ymweliad â'r sefydliad. Pwysleisiwyd rôl bwysig y dietegydd a'r seicolegydd a nodwyd fod cleifion yn aml yn cael eu cyfeirio at y sefydliad heb iddynt gael mynediad at weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cyn hynny. Yn ei dro, gall hyn arwain at atgyfeiriadau amhriodol at y sefydliad ar gyfer llawdriniaeth bariatrig cyn i ddewisiadau ffordd o fyw unigolyn neu ei broffil seicolegol gael eu hystyried yn llawn.  Dadleuwyd y gallai darpariaeth fwy addas o wasanaethau lefel 3 sicrhau bod llai o atgyfeiriadau amhriodol at y sefydliad.

 

Effaith llawdriniaeth

O safbwynt economeg, nodwyd, o ran cost a budd, fod camganfyddiad fod llawdriniaeth bariatrig yn ddrud. Yn ôl staff y sefydliad, daw llawdriniaeth bariatrig yn gost niwtral o fewn dwy flynedd a hanner o'r driniaeth.   Mae hyn oherwydd gostyngiad dilynol mewn afiechydon eraill (e.e. diabetes), er enghraifft, a gostyngiad o ran faint o foddion y mae ei angen ar y claf.  Clywodd aelodau'r Pwyllgor hefyd fod cyfraddau cyflogaeth yn y boblogaeth ar ôl llawdriniaeth bariatrig yr un peth ag yn y boblogaeth arferol.

 

O ran effaith corfforol, nododd y sefydliad fod y diabetes wedi cilio mewn 85% o gleifion. Roedd lleihad sylweddol mewn cyfraddau pwysedd gwaed uchel a gwelliant sylweddol yn nifer yr achosion o ddal anadl wrth gysgu. Dywedwyd wrth yr Aelodau hefyd fod menywod sy'n cael llawdriniaeth bariatrig yn haneru eu perygl o ddatblygu pob math o ganser.   

 

Cyfeiriwyd hefyd at gorff cynyddol o dystiolaeth y gallai trin y menywod gordew hyn cyn iddynt gael plant leihau cyd-afiachusrwydd ymhlith eu plant.

 

Profiad y claf

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu'r Aelodau â chlaf a oedd wedi cael llawdriniaeth bariatrig yn Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru.  Roedd ei gordewdra wedi achosi problemau orthopedig a oedd wedi ei gwneud yn anodd iddi symud a'i gorfodi i adael swydd yr oedd yn ei charu. Roedd hi hefyd wedi dioddef o bwysedd gwaed uchel ac iselder o ganlyniad i'w gordewdra a diweithdra. Eglurodd fod ei hatgyfeiriad at Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru wedi digwydd drwy ei meddyg teulu a'i llawfeddyg orthopedig.  Eglurodd y claf i'r Aelodau fod ei bywyd wedi newid yn sylweddol ar ôl y llawdriniaeth. Mae hi wedi cael triniaeth i gael pen-glin newydd – mae hyn wedi gwella ei symudedd, a bydd ei phen-glin arall yn cael ei drin cyn hir.  Yr unig elfen sy'n parhau i beri gofid iddi yw'r ffaith nad yw hi ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer triniaeth siapio corff ar y GIG – hynny yw, cael gwared ar groen gormodol – oherwydd ystyrir bod hyn yn gosmetig yn ei hachos hi.